OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 990(Cy. 144)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) 2011
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009 (O.S. 2009/1385 (Cy.141) drwy symud ymaith y gofyniad ar gyfarwyddwyr anweithredol i gynnwys person sydd yn swyddog o undeb llafur neu gorff cynrychioliadol arall o gyflogeion sy’n cynrychioli staff Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae yna hefyd fân ddiwygiadau i reoliad 1(2) (dehongli), paragraff 2 o Atodlen 1 (gweithdrefnau ar gyfer penodi’r cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol), a pharagraff 2(2) o Atodlen 2 (rheolau ynghylch cyfarfodydd a thrafodion yr Ymddiriedolaeth).
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 990(Cy. 144)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) 2011
Gwnaed 29 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Mawrth 2011
Yn dod i rym 23 Mehefin 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 18(4), 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 4 o Atodlen 3 iddi([1]).
Enwi a chychwyn
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymddiriedolaeth
Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a
Gweithdrefn) (Diwygio) 2011.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mehefin 2011.
Diwygio Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009([2]) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2) (dehongli), hepgorer y diffiniad o “undeb llafur”.
(3) Yn rheoliad 5(1) (cyfarwyddwyr anweithredol), hepgorer is-baragraff (ch).
(4) Yn rheoliad 10 (terfynu deiliadaeth swydd cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol), yn lle rheoliad 10(8), rhodder—
“Os bydd y cyfarwyddwr anweithredol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) o reoliad 5(1) yn peidio â bod yn un o aelodau neu o gyflogeion corff sector gwirfoddol yng Nghymru, bydd Gweinidogion Cymru’n terfynu ei benodiad yn gyfarwyddwr anweithredol.”.
(5) Ym mharagraff 2 o Atodlen 1 (gweithdrefnau ar gyfer penodi’r cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol), yn lle “aelodau” rhodder “gyfarwyddwyr”.
(6) Ym mharagraff 2(2) o Atodlen 2 (rheolau ynghylch cyfarfodydd a thrafodion yr Ymddiriedolaeth), yn lle “yr aelodau” (llinell 3) rhodder “y cyfarwyddwyr” ac yn lle “aelodau” (llinell 7) rhodder “gyfarwyddwyr”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2011